I weld y wybodaeth hon yn Gymraeg, cliciwch yma.
Squash Wales are looking for two new Non-Executive Board Directors
Following inclusion in the Olympics for the first time, record prize money on the PSA World Tour next season, there has never been a better time to help grow and drive the success of squash in Wales.
As home to the best player in the UK, Squash Wales are on a mission to create a sustainable environment where everyone can reach their potential within all aspects of a vibrant squash community. So, whether you aspire to be the next Joel Makin, Tesni Murphy, or just enjoy getting active and having fun whilst doing it, we are here to make it happen for our members.
To help us, we need two new directors with skills in Finance and Sport Development to join our board. If you hold a professional accountancy or finance qualification, or you have experience in implementing sport pathways from grassroots to international level, then we would love to hear from you.
Previous board experience, or squash playing experience is not essential and an induction and onboarding process is in place for those joining a board for the first time.
We are particularly open to expressions of interest from candidates who have not previously served in a board role but who can demonstrate the skills and competencies necessary to contribute to Squash Wales’s new strategy that will be launched in late 2025.
Board Roles
Board roles are non-salaried but travel and any other reasonable out-of-pocket expenses will be reimbursed for attendance at official meetings and events on behalf of Squash Wales. The time commitment is variable throughout the year, but it is expected Board member are available to advise paid staff within their area of expertise and commit to attending four annual board meetings, three of which are held online. One meeting per year (normally September), is held in person in Cardiff. The initial term of office is 3 years.
Board members provide specialist advice and support using their professional skills to benefit the organisation. By taking an active role on the Board, they will work with other Board members, as well as the Office & Business Manager and Director of Performance and Participation, to manage Squash Wales with excellence and assist with the delivery our strategy.
How to express interest in joining the Squash Wales Board
Squash Wales is an equal opportunities organisation and all applicants are treated equally and fairly. We are committed to having a diverse team who can bring their lived experiences into his role. Therefore, we actively encourage those who identify as female, as having a disability, as LGBTQ+ or individuals from ethnically diverse backgrounds to express interest in joining our board.
To express an interest, please send a short email of less than 500 words outlining how you can contribute to the board to [email protected] to set an up informal online discussion. Expressions of interest will remain open until roles are filled.
Alternatively, for a confidential discussion about these roles, please contact Richard Bennett, Chair of Squash Wales, [email protected]
Mae Sboncen Cymru yn chwilio am ddau Gyfarwyddwr Bwrdd Anweithredol newydd
Ar ôl cael ei chynnwys fel camp yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf, a gwobrau ariannol mwy nag erioed ar Daith Byd y PSA y tymor nesaf, does dim amser gwell wedi bod i helpu i dyfu a sbarduno llwyddiant sboncen yng Nghymru.
Fel cartref i’r chwaraewr gorau yn y DU, mae gan Sboncen Cymru genhadaeth i greu amgylchedd cynaliadwy lle gall pawb gyrraedd eu potensial ym mhob agwedd ar gymuned sboncen fywiog. Felly, os ydych chi’n anelu at fod y Joel Makin neu’r Tesni Evans nesaf, neu ddim ond yn mwynhau bod yn actif a chael hwyl wrth wneud hynny, rydym ni yma i wneud i hynny ddigwydd i’n haelodau ni.
I’n helpu ni, mae angen dau gyfarwyddwr newydd arnom ni sydd â sgiliau mewn Cyllid a Datblygu Chwaraeon i ymuno â’n bwrdd. Os oes gennych chi gymhwyster cyfrifeg neu gyllid proffesiynol, neu os oes gennych chi brofiad o weithredu llwybrau chwaraeon o lawr gwlad i lefel ryngwladol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Nid yw profiad bwrdd blaenorol, na phrofiad o chwarae sboncen, yn hanfodol ac mae proses sefydlu a chroesawu yn ei lle i’r rhai sy’n ymuno â bwrdd am y tro cyntaf.
Rydyn ni’n arbennig o agored i ddiddordeb gan ymgeiswyr nad ydynt wedi gwasanaethu mewn rôl bwrdd o’r blaen ond a all arddangos y sgiliau a’r cymwyseddau sy’n angenrheidiol i gyfrannu at strategaeth newydd Sboncen Cymru a fydd yn cael ei lansio ddiwedd 2025.
Swyddogaethau’r Bwrdd
Nid oes cyflog am gwblhau swyddogaethau’r Bwrdd ond bydd treuliau teithio ac unrhyw dreuliau rhesymol eraill yn cael eu had-dalu am fynychu cyfarfodydd a digwyddiadau swyddogol ar ran Sboncen Cymru. Mae’r ymrwymiad amser yn amrywiol drwy gydol y flwyddyn, ond disgwylir i aelodau’r Bwrdd fod ar gael i gynghori staff cyflogedig o fewn eu maes arbenigedd ac ymrwymo i fynychu pedwar cyfarfod bwrdd blynyddol, a bydd tri o’r rhain yn cael eu cynnal ar-lein. Bydd un cyfarfod y flwyddyn (ym mis Medi fel rheol) yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd. Y tymor cychwynnol ar gyfer y rôl yw 3 blynedd.
Mae aelodau’r Bwrdd yn darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol gan ddefnyddio eu sgiliau proffesiynol er budd y sefydliad. Drwy gymryd rôl weithredol ar y Bwrdd, byddant yn gweithio gydag aelodau eraill y Bwrdd, yn ogystal â Rheolwr y Swyddfa a’r Pennaeth Perfformiad a Chyfranogiad, i reoli Sboncen Cymru gyda rhagoriaeth a chynorthwyo gyda chyflawni ein strategaeth.
Sut i fynegi diddordeb mewn ymuno â Bwrdd Sboncen Cymru
Mae Sboncen Cymru yn sefydliad cyfle cyfartal ac mae pob ymgeisydd yn cael ei drin yn gyfartal ac yn deg. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael tîm amrywiol a all gyfrannu eu profiad bywyd at eu rôl. Felly, rydyn ni’n annog pobl sy’n uniaethu fel benywod, fel pobl ag anabledd, fel LHDTC+ neu unigolion o gefndiroedd ethnig amrywiol i fynegi diddordeb mewn ymuno â’n bwrdd ni.
I fynegi diddordeb, anfonwch e-bost byr o lai na 500 gair yn amlinellu sut gallwch chi gyfrannu at y bwrdd at [email protected] i drefnu trafodaeth anffurfiol ar-lein. Bydd posib mynegi diddordeb nes bod pob rôl wedi’i llenwi.
Fel arall, am drafodaeth gyfrinachol am y swyddogaethau yma, cysylltwch â Richard Bennett, Cadeirydd Sboncen Cymru, [email protected]